Mae’r Culture lab yn cynnwys saith sesiwn diwrnod llawn dros bum mis.
Bydd pob diwrnod rhaglen yn dechrau gyda chroesawu’r holl gyfranogwyr ac amlinellu’r diwrnod i ddod. Caiff sesiynau’r bore a’r prynhawn eu pennu gan siâp y weithgaredd a ragwelir, ond bydd sesiwn adael bob amser ar y diwedd, cyn rhyddhau pobl i gael eu lle a’u hamser eu hunain i fyfyrio. Ar y cyfan, bydd nosweithiau’n cynnwys sesiwn fwy anffurfiol gyda phrif siaradwr ysbrydoledig cyn cinio, lle bydd cyfle hefyd i gwestiynau a thrafodaethau hamddenol.
Rydym yn awyddus i gymryd cyfranogwyr o’u hamgylchedd arferol i le naturiol hardd sy’n adlewyrchu gwerthoedd y rhaglen. Rhoddir ystyriaeth i leoliad daearyddol pawb sy’n cymryd rhan yn y rhaglen, a dewisir lleoliadau yn unol â hynny. Caiff y rhaglen ei chyflwyno yn Saesneg.
Sesiwn Un: “Beth yw’r broblem?”
1-3 Ebrill 2016 (Machynlleth)
Bydd y Culture lab yn dechrau gydag ymweliad preswyl dau ddiwrnod yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth. Rydym yn awyddus i gael cipolwg unigryw ar yr heriau sy’n ein hwynebu mewn meysydd amrywiol – economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol, a diwylliannol – drwy fewnbwn meddylwyr, gwneuthurwyr polisi, a strategwyr blaenllaw. Rydym am ysgogi pobl i edrych at y gorwel a meddwl yn fwy cyffredinol am eu heriau.
Sesiwn Dau: “Beth mae arnom ei angen i ddatrys y broblem?”
1-3 Ebrill 2016 (Machynlleth)
Byddwn yn rhannu ymchwil ac yn ceisio mewnbwn gan arweinwyr diwylliannol sydd â gwerthoedd wrth wraidd yr hyn a wnânt, gan ddechrau archwilio gwahanol ffyrdd o edrych ar y materion ehangach.
Sesiwn Tri: “Beth yw ein strategaeth?”
21 Ebrill 2016 (Cardiff)
Gan dynnu ar theori systemau, byddwn yn edrych ar yr hyn mae’n rhaid i ni newid a pha ymyriadau y gellid eu gwneud. Gan gyfeirio at waith gan Donella Meadows ynghylch “pwyntiau trosoledd” a’i 12 Places to Intervene in a System, bydd archwilio ychwanegol o sut mae newid yn digwydd trwy astudiaethau achos a mewnbwn gan siaradwyr.
Sesiwn Pedwar: “Pa arweinyddiaeth mae ei angen arnom?”
19 Mai 2016 (TBC)
Gyda phersbectif ar sut mae digidol yn effeithio’n drosiadol ac yn faterol ar y ffordd y mae cymdeithas yn ei threfnu ei hun, byddwn yn bwrw golwg ar hen fodelau a modelau newydd o arweinyddiaeth artistig. Byddwn hefyd yn edrych ar sut mae artistiaid yn arwain newid, a sut mae ffurfiau newydd yn trafod yr heriau a gyflwynir gan yr angen am gynaliadwyedd, cydweithio, ac ymagwedd wahanol at adnoddau.
Sesiwn Pump: “Beth yw ein stori?”
16 Mehefin 2016 (i’w gadarnhau)
Mae’r sesiwn hon wedi’i strwythuro o amgylch ymarfer eiriolaeth a ddatblygwyd gan academydd Harvard Marshall Ganz, The Story of Self – arf pwerus sy’n defnyddio adrodd straeon i greu naratif grymus o arweinyddiaeth drwy alinio syniadau o amgylch tri chwestiwn: “Pam fi? Pam ni? Pam nawr? ”
Sesiwn Chwech: “Beth yw ein gweledigaeth?”
15-17 Gorffennaf 2016 (i’w gadarnhau)
Wrth lansio’r ail ymweliad, rydym wedi’n hysbrydoli gan ymgais Gwlad yr Iâ i dorf-ffynonellu ei chyfansoddiad newydd yn 2009. Bydd y sesiwn hon wedi’i hwyluso, a bydd yn herio’r grŵp i gytuno ar weledigaeth newydd a maniffesto neu gyfansoddiad ar gyfer y sector diwylliannol gyda’i gilydd.
Sesiwn Saith: “Beth nesaf?”
15-17th Gorffennaf 2016 (i’w gadarnhau)
Gan ganolbwyntio ar anghenion unigol, bydd y sesiwn yn benllanw naturiol i’r rhaglen gyda gwerthusiad unigol, cynllunio gweithredu, a siaradwr graddio ysbrydoledig.
Bydd y Culture lab yn hynod gyfranogol, gan ddefnyddio llawer o arferion allweddol o ddysgu gweithredol. Felly, bydd rhaid i bobl baratoi rhwng sesiynau. Byddwn yn darparu cymorth mewnol i bobl drwy ddarparu cyfeillio a mentora gan y tri hwylusydd, tra bydd cymorth parhaus yn cael ei ddarparu drwy greu setiau dysgu gweithredol a fydd yn cyfarfod rhwng diwrnodau’r rhaglen.
Cyfraniadau’r Culture lab
Mae pob lle ar y Labordy Ddiwylliant yn costio tua £4,000. Mae hynny’n llawer o arian, a dyna pam rydym wedi gweithio i gael arian o wahanol ffynonellau, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru. Fodd bynnag, nid yw’r cyllid yn cwmpasu popeth, felly rydym yn gofyn i gyfranogwyr helpu i lenwi’r bwlch hwnnw gyda’r bandiau canlynol:
- £600 y person (a ddisgwylir gan sefydliadau ac asiantaethau mwy £150k>)
- £450 y person (a ddisgwylir gan sefydliadau llai £100-£150k)
- £150 y person (a ddisgwylir gan bobl annibynnol a llawrydd)
Nid ydym am wahardd unrhyw un (hyd yn oed rhai mewn sefydliadau mwy o faint), felly rhowch wybod i ni yn onest beth y gallwch gyfrannu. Os ydych yn dod o fudiad llawr gwlad neu ar incwm isel iawn, ni fyddem o reidrwydd yn disgwyl i chi fforddio hyn.
Bydd y Culture lab yn hyrwyddo a galluogi:
- Cydweithio
- Cydnerth
- Cynaliadwyedd
- Eiriolaeth a hyfforddiant
- Sgiliau meddwl beirniadol
- Addysg yn realiti gwleidyddol y sector yng nghymdeithas y DU
Bydd y Culture lab yn rhaglen hynod gyfranogol yn cynnig cyfle i herio, dadansoddi, ysbrydoli, myfyrio, a thrafod. Rydym yn ymgysylltu â meddylwyr, gwneuthurwyr polisi, ac ymarferwyr blaenllaw o gefndiroedd ac arbenigeddau amrywiol i gyfrannu i’r gweithgaredd. Bydd y rhaglen yn cynnwys cymysgedd o weithdai preswyl a sesiynau undydd mewn lleoliadau hardd, ac yn cynnig hyfforddiant perthnasol yn ogystal â rhannu profiad yn anffurfiol fel rhan o gymuned glos o gydweithwyr. Disgwylir i gyfranogwyr baratoi rhwng sesiynau tra caiff cymorth mewnol ei annog drwy gyfeillio a mentora. Caiff cymorth parhaus hefyd ei hwyluso trwy greu setiau dysgu gweithredol yn cyfarfod rhwng diwrnodau rhaglen. Bydd pwyslais ar ddatblygiad â chefnogi heb gyfarwyddeb.
Themâu allweddol y Culture lab:
- Datblygiad proffesiynol a phersonol
- Ymagwedd a arweinir gan werthoedd
- Amser i feddwl a lle i wneud hynny mewn
- Gwell gwydnwch a hyder personol
- Pwyslais ar gynaliadwyedd
- Deall arweiniad a chyd-destun yr 21ain ganrif
- Deialog gyda chyfoedion
- Syniadau newydd am ymarfer
Os yw hyn oll yn swnio’n dda i chi …